Mae Dalgylch Dyfi yn gartref i un o gasgliadau o anifeiliaid a phlanhigion mwyaf gwerthfawr yng Nghymru.
Cydnabyddir hyn gan y nifer fawr o ddynodiaethau ardaloedd arbennig, hynny am eu nodweddion daearyddol a rhywiogaethau gwarchodedig.
Bwriad Ymddiriedolaeth Natur Dyfi yw diogelu a chyfoethogi cynefinoedd yr afon a’i llednentydd fel bo bywyd gwyllt yn gallu ffynnu.
Natur
Rydym yn wynebu pwynt tyngedfennol i wrthdroi ffawd ein bywyd gwyllt, ecosystemau a’n cymunedau, ac mae’n glir bod y tri wedi’u hymblethu’n annatod.
Heriau
Mae’r adroddiad Prydain gyfan ‘State of Nature Report’ (2019 diweddarwyd 2024) yn nodi bod ein bywyd gwyllt wedi’i effeithio gan ganrifoedd o lygredd, colled cynefinoedd a diraddiad.
